Cymorth Bwyd
Mae rhannu’r bwyd yr ydym yn ei dderbyn drwy ein temlau gyda’n pererinion, y gymuned ehangach a’r byd wedi bod yn elfen ganolog o’n gwaith yn Skanda Vale o’r dechrau.
Pob blwyddyn, mae nifer o bererinion yn ymweld â’n temlau ac yn gadael rhoddion o fwyd a phethau eraill fel rhan o’u pererindod. Mae’r rhoddion yma yn cynnal bywydau’r gymuned breswyl ac hefyd yn helpu i fwydo ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn rhannu bwyd ychwanegol gyda sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt, trwy ein partneriaethau sefydlog amrywiol.



GWEITHIWCH GYDA NI
Rydym yn gweithio gyda phob math o sefydliadau, ac hefyd gydag unigolion, i ddosbarthu’r bwyd i rai mewn angen. Os oes gennych chi ddiddordeb i wybod mwy am weithio gyda ni, mae croeso i chi gysylltu.
Rydym yn barod iawn i drafod ein gwerthoedd a threfniadau ymarferol gydag unrhyw elusen neu unigolyn. Ond mae’n bwysig i nodi na fyddwn fel rheol yn gallu trefnu cludiant, felly bydd rhaid i elusennau gasglu’r bwyd o Skanda Vale yn Sir Gaerfyrddin.
EIN PARTNERIAID
Lleol:
- Prosiect Bwyd Llambed
- Bwyd Dros Ben Aber
- Banc Bwyd Eglwys Crist, Caerfyrddin
Cenedlaethol:
Rhyngwladol:


BETH FEDRWN NI GYNNIG
Gallwn rannu llawer mwy o fwyd yn ystod ein cyfnod prysur, fel arfer rhwng Ebrill a Hydref.
Mae’r rhan fwyaf o’n bwydydd yn cadw am amser hir, yn enwedig reis, blawd, corbys, te a sbeis.
Ar gyfnodau gwahanol, gallwn hefyd gynnig olew, siwgwr, llysiau (yn enwedig tatws a winiwns) a hyd yn oed ffrwythau, er bod eu hargaeledd yn amrywio.
EIN GRONFA BWYD
Yn 2012, fe gafodd ein warws ei ail-adeiladu, a chawsom le i storio bwyd dros ben o archfarchnadoedd lleol er mwyn ei ail-ddosbarthu.
Rydym yn bwriadu datblygu’r adeilad yma ymhellach yn y ddwy flynedd nesa i wella ein capasiti ac i gynnwys oergell.